Dyma beth allai’r byd crypto ei ddysgu o’r arian cyfredol oedd yn cael ei dalu i weithwyr yng Nghymru ganrifoedd yn ôl
Mae’r farchnad cryptoarian wedi gweld nifer o rwystrau diweddar: o gwymp y system Terra/Luna ym mis Mai 2022 i fethiant un o gyfnewidfeydd crypto mwya’r byd (FTX) fis Tachwedd diwethaf. Oherwydd hyn, a phryderon ynghylch allyriadau carbon cryptoarian, fe gwympodd yr asedau’n llym yn 2022, gan golli gwerth $2 triliwn (£1.5 triliwn). Ond er bod cryptoarian yn aml yn cael sylw, nid syniad newydd yw hwn. Roedd gweithwyr yng Nghymru canrifoedd yn ôl yn aml yn cael eu talu mewn ffyrdd oedd yn wahanol i arian cyffredin. Tocynnau materol oedd yr arian cyfredol hynny, oedd yn cynrychioli ac yn gysylltiedig â gwerth arian go iawn. Toceiddio yw’r broses o gynrychioli ased sy’n bodoli eisoes ar gyfriflyfr drwy gysylltu’r gwerth economaidd neu’r hawliau sy’n deillio o’r asedau â “thocyn”. Gall tocynnau o’r fath fod yn ddigidol neu yn faterol. Mae arian digidol wedi’i gynllunio i weithredu fel cyfrwng cyfnewid fesul rhwydwaith cyfrifiadurol. Dydy’r dechnoleg ddim yn ddibynnol ar unrhyw awdurdod unigol, fel llywodraeth neu fanc, i gynnal y rhwydwaith. Eto, mae hyn yn debyg i sut …